Croeso
Croeso i fy ngwefan a fydd yn eich galluogi i ddarganfod mwy amdaf i ac am fy ngweledigaeth ar gyfer Aberconwy.
Mae hi'n anrhydedd ac yn fraint i mi sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Aberconwy ar gyfer etholiad Cymru. Fel y gwyddom mae Gareth Jones wedi gwasanaethu Aberconwy yn ddiflino ac wedi gweithio'n galed i rwystro ysbyty Llandudno rhag cael ei israddio. Mi fyddwn i gyd yn gweld eisiau Gareth Jones sy'n ymddeol fis Mai ond rwy'n edrych ymlaen at yr her ac am weithio yn ddyfal i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus; ein hysbyty, llyfrgelloedd, swyddfeydd post ac ysgolion.
Mae gen i'r profiad angenrheidiol i sefyll dros Aberconwy yn y Cynulliad. Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac felly rwy'n deall y diwydiant ffermio a thwristiaeth. Mae fy mhrofiad o weithio ar y lefelau uchaf yn golygu fod gen i'r sgiliau perthnasol i symud ymlaen gyda'r gwaith a chyflawni dros Aberconwy.

